Swyddogion | Gorchestion | Annerchiad y Cadeirydd | Enillwyr Tlysau 2006 - 2007 | Hanes | Bathodyn
Officials | Honours | Chairman's Address | 2006 - 2007 Trophy Winners | History | Badge
Ond, er yr holl feirniadu, methiant fu ymgais yr enwadau crefyddol, Cymdeithas Cymru Fydd, a'r Cyngor Plwyf i daflu dwr oer dros weithgareddau'r bechgyn. Erbyn 1897 gallai'r Clorianydd gyhoeddi fod "ymrysonfa" yn cael ei gynnal bron bob dydd Sadwrn ar un o gaeau Bryn Eira, ac ym 1899 fe ymunodd Llanfair Rovers â Chynghrair Arfordir y Gogledd. Ym 1899 hefyd, fe ddechreuodd bechgyn yr Ysgol Fwrdd ymddiddori yn y gem. Fe brynodd John Owen, yr ysgolfeistr, bel i'r hogiau, ac o fewn tridiau fe allai gyhoeddi'n fuddugoliaethus yn y Llyfr Log:
"Football," meddai, (yn Saesneg wrth reswm) "helps to bring the boys to school." (13eg Hydref, 1899)

Y mis Mai canlynol fe gynhaliwyd swper i ddathlu llwyddiant y tymor llawn cyntaf y clwb yn nhafarn y "Butcher's Arms". Roedd y Rovers wedi chwarae 23 o gemau, llwyddwyd i ennill 10 ohonynt, collwyd 8, a chafwyd 5 gem gyfartal.
By 1897 the Welsh paper Y Clorianydd reported that football matches were played nearly every Saturday on one of the Bryn Eira fields and the following season a team was regularly playing friendlies in the village. Football in Llanfairpwll had other benefits as well. In 1899, Mr. John Owen, the local headmaster, bought a football for the boys to play with in school. Within 3 days he was reporting gleefully in the School Log Book "Football helps to bring the boys to school." (13th October 1899).

In 1899 Llanfair Rovers (note the influence of Blackburn Rovers, THE team of the period) joined the North Wales Coast League and gave a good account of themselves playing 23 matches, winning 10, drawing 5 and losing 8. At the end of the season, in May 1900, an end of season supper was held at the Butcher's Arms.
3 3
Diweddarwyd/Updated